Iesu nid oes derfyn/terfyn arnat

1,2,3,((4),5);  1,3,5.
(Cyfiawnder Crist)
Iesu, nid oes terfyn arnat
  Mae cyfiawnder maith dy ras
Yn fwy helaeth, yn fwy dwfwn
  Ganwaith nag yw 'mhechod cas:
    Fyth yn annwyl
  Meibion dynion mwy a'th gâr.

Mae angylion yn cael bywyd
  Yn dy ddwyfol nefol hedd
Ac yn sugno'u holl bleserau
  Oddi wrth olwg ar dy wedd;
    Byd o heddwch
  Yw cael aros yn dy ŵydd.

Ti faddeuaist fil o feiau
  I'r pechadur gwaetha'i ryw;
Arglwydd, maddau eto i minnau -
  Ar faddeuant 'r wyf yn byw;
    D'unig haeddiant
  Yw 'ngorfoledd i a'm grym.

Heddyw 'rwyf yn frwnt o newydd,
  Rhaid fy ngolchi heddyw'n wyn
Yn yr afon a wna'r aflan
  Fel yr eira ar y bryn;
    Dim nis càna
  Ond dy ddwyfol nefol waed.

Nid oes ddofa fy nghydwybod
  Ond cyfiawnder mawr y nef;
Ac ni thâl rhoi aberth arall
  Is y nefoedd iddo Ef:
    Maddeu, f'Arglwydd,
  Gwrandaw'r griddfan ar y groes.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Alleluia Dulce Carmen (Samuel Webbe 1740-1816)
Blaencefn (John Thomas 1839-1922)
Bryn Du (Tom Carrington 1881-1961)
Catherine (David Roberts 1820-72)
Dyffryn Conwy (Arthur Vaughan Williams 1834-75)
Edlingham (E J Hopkins)
Latrode (<1875)
Lewes (John Randall 1717-99)
Litany (W Newport)
Llwynbedw (J T Rees 1857-1949)
Verona (alaw Eidalaidd)

gwelir:
  O na bai cystuddiau f'Arglwydd
  Y mae rhinwedd gras y nefoedd

(The Righteousness of Christ)
Jesus, there is no end to thee
  The extensive justice of thy grace is
More plenteous, deeper
  A hundredfold than is my wrong:
    Ever dear
  Sons of men will evermore love thee.

Angels may have life
  In thy divine heavenly peace
And suck all their pleasures
  From gazing on thy face;
    A world of peace
  Is to get to stay in thy presence.

Thou forgavest a thousand sins
  For the sinner of the worst kind;
Lord, forgive me again -
  On forgiveness I shall live;
    Thy merit alone
  Is my joy and my strength.

Today I am newly dirty,
  I need to be washed white today
In the river that makes the unclean
  Like the snow on the hill;
    Nothing bleaches
  But thy divine heavenly blood.

Nothing tames my conscience
  But the great righteousness of heaven;
And it will not pay giving any other offering
  Under heaven to Him:
    Forgive, my Lord,
  Listen to the groaning on the cross.
tr. 2009,10 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~